YR ATODLENLL+CY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

RHAN 1LL+CRHAN I O'R CONFENSIWN

Erthygl 27LL+C

4LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod cynhaliaeth i'r plentyn yn cael ei hadennill o'r rhieni neu'r personau eraill sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y plentyn, o fewn y Parti Gwladwriaeth ac oddi dramor. Yn benodol, pan fo'r person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y plentyn yn byw mewn Gwladwriaeth sy'n wahanol i un y plentyn, rhaid i'r Partïon Gwladwriaethau hybu'r broses o gydsynio â chytundebau rhyngwladol neu gwblhau'r cytundebau hynny, yn ogystal â gwneud trefniadau priodol eraill.