Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Erthygl 3LL+C

1LL+CYm mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant, p'un a ymgymerir â hwy gan sefydliadau lles cymdeithasol cyhoeddus neu breifat, llysoedd barn, awdurdodau gweinyddol neu gyrff deddfwriaethol, rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth.

2LL+CMae Partïon Gwladwriaethau yn ymrwymo i sicrhau i'r plentyn yr amddiffyniad a'r gofal sy'n angenrheidiol i'w lesiant, gan ystyried hawliau a dyletswyddau ei rieni, ei warcheidwaid cyfreithiol, neu unigolion eraill sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol drosto, ac, i'r perwyl hwn, rhaid iddynt gymryd pob mesur deddfwriaethol a gweinyddol sy'n briodol.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau y bydd y sefydliadau, y gwasanaethau a'r cyfleusterau sy'n gyfrifol am ofalu am blant neu am eu hamddiffyn yn cydymffurfio â'r safonau a sefydlwyd gan awdurdodau cymwys, yn enwedig ym meysydd diogelwch, iechyd, yn nifer ac addasrwydd eu staff, yn ogystal â goruchwyliaeth gymwys.