Search Legislation

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, Adran 2. Help about Changes to Legislation

2Cynllun y plantLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cynllun (“cynllun y plant”) sy'n gosod y trefniadau y maent wedi eu gwneud, neu y maent yn bwriadu eu gwneud, at ddiben sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1.

(2)Caiff y cynllun—

(a)ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau ar weithrediad y cynllun neu ar unrhyw fater arall a grybwyllir ynddo (yn ychwanegol at yr adroddiadau sy'n ofynnol o dan adran 4(1)), a

(b)pennu materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiadau hynny neu mewn adroddiadau o dan adran 4(1).

(3)Caiff y cynllun gynnwys unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn pen chwe mis ar ôl i'r Pwyllgor wneud unrhyw awgrym neu argymhelliad cyffredinol o dan erthygl 45(d) seiliedig ar adroddiad gan y DU, ystyried p'un ai i adolygu neu ail-wneud y cynllun yng ngoleuni'r awgrym hwnnw neu'r argymhelliad hwnnw.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu neu ail-wneud y cynllun ar unrhyw adeg.

(6)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “y Pwyllgor” yw'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn a sefydlwyd o dan erthygl 43(1);

(b)ystyr “adroddiad gan y DU” yw adroddiad a gyflwynir gan y Deyrnas Unedig o dan erthygl 44(1)(b); ac

(c)mae unrhyw gyfeiriad at erthygl yn gyfeiriad at yr erthygl honno o'r Confensiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

Back to top

Options/Help