ESBONIAD O’R ADRANNAU

Adran 1 – Dyletswydd i ddarparu systemau llethu tân awtomatig

3.O ran gwaith i godi adeilad i’w ddefnyddio’n breswylfa, gwaith i adeilad presennol neu ran ohono i’w drosi i greu un breswylfa neu fwy, neu waith i breswylfeydd presennol i’w his-rannu neu eu cyfuno, ceir dyletswydd i ddarparu ym mhob preswylfa system llethu tân awtomatig sy’n gweithio’n effeithiol ac sy’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion y caiff Gweinidogion Cymru eu rhagnodi mewn rheoliadau.

4.Ni fydd y ddyletswydd hon yn gymwys i waith adeiladu a wneir er mwyn cyflawni un o swyddogaethau Gweinidog y Goron, na phan fydd rheoliadau adeiladu yn gosod gofynion sy’n ymwneud â darparu systemau llethu tân, na phan fyddant yn gymwys felly ond am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf Adeiladu 1984 i hepgor y gofynion hynny.

Adran 2 – Gorfodi

5.Ac eithrio pan fydd gwaith adeiladu yn cael ei oruchwylio gan arolygydd cymeradwy, awdurdodau lleol sydd i orfodi’r Mesur hwn.

Adran 3 – Darparu gwybodaeth

6.Yn unol â’r rheoliadau adeiladu, pan fydd hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o’r bwriad i wneud gwaith adeiladu neu pan fydd cynlluniau llawn o waith o’r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol, rhaid i wybodaeth fynd gyda’r hysbysiad neu’r cynlluniau er mwyn dangos bod modd i’r gwaith fodloni’r gofynion a ragnodir yn y rheoliadau a wneir o dan adran 1. Rhaid darparu’r wybodaeth ar y fath ffurf a all fod wedi’i rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

7.Pan fydd awdurdod lleol o’r farn nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn gyflawn neu nad yw’n dangos yn ddigonol y bydd y gwaith, unwaith y bydd wedi’i orffen, yn gallu cydymffurfio â’r gofynion a nodwyd yn adran 1(4), caiff roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farn honno i’r person a roddodd yr hysbysiad neu a adneuodd y cynlluniau, a rhaid rhoi’r cyfryw hysbysiad o fewn y “cyfnod perthnasol”, sef pum wythnos (neu hyd at ddau fis, os cytunwyd ar hynny) o ddyddiad cael yr wybodaeth. Caiff person sy’n cael ei hysbysu felly ddiwygio’r wybodaeth a roddwyd a chyflwyno’r wybodaeth wedi’i diwygio i’r awdurdod lleol, a bydd y cyfnod perthnasol yn dechrau adeg cael yr wybodaeth wedi’i diwygio. Caniateir cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cywirdeb y farn honno at Weinidogion Cymru i’w benderfynu, a rhaid i’r cyfryw ffi ag a ragnodir mewn rheoliadau fynd gydag ef.

Adran 4 – Dilysu a chyflwyno dogfennau

8.Mae darpariaethau adran 93 (dilysu dogfennau), 94 (cyflwyno dogfennau), a 94A (cyflwyno dogfennau’n electronig) o Ddeddf Adeiladu 1984 yn gymwys mewn perthynas â dogfennau yr awdurdodir neu y gorfodir eu rhoi, eu gwneud, eu cyhoeddi neu eu cyflwyno o dan y Mesur.

Adran 5 – Erlyn am dramgwyddau

9.Dim ond awdurdodau lleol neu Weinidogion Cymru sy’n cael cychwyn achos llys o dan y Mesur.

Adran 6 – Dehongli

10.Mae adran 6 yn dehongli’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Mesur. Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff y diffiniad o “preswylfa” ei ddiwygio drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru os bydd diwygiad o’r fath yn ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl neu’n diwygio’r disgrifiad o ddosbarth presennol o fangreoedd preswyl.

Adran 7 – Darpariaethau trosiannol a chanlyniadol

11.Rhoddir y pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol, arbed, cysylltiedig, atodol ac unrhyw ddarpariaeth arall, gan gynnwys darpariaeth i ddiwygio, diddymu neu addasu deddfiad fel arall, fel sy’n angenrheidiol neu’n briodol mewn cysylltiad â’r Mesur neu i roi llwyr effaith iddo.

Adran 8 – Rheoliadau a gorchmynion

12.Mae’r adran hon yn darparu bod yn rhaid gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur drwy offeryn statudol, ac mae’n darparu’r weithdrefn sydd i’w dilyn, gan gynnwys unrhyw ofyniad i ymgynghori, cyn gwneud rheoliadau.

Adran 9 – Teitl byr a chychwyn

13.Mae adran 9 yn nodi teitl byr y Mesur ynghyd â’r darpariaethau cychwyn.

Atodlen 1 – Gorfodi

14.Ac eithrio fel y darperir gan Atodlen 2, awdurdodau lleol sydd i orfodi’r Mesur hwn.

15.Bydd person sy’n gwneud gwaith adeiladu nad yw’n cydymffurfio â gofynion adran 1 yn euog o dramgwydd a all gael ei brofi’n ddiannod, a bydd yn agored i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

16.Heb ragfarn i’w hawl i gychwyn achos llys mewn perthynas â gwaith adeiladu tramgwyddus, caiff awdurdod lleol roi hysbysiad, i’w alw’n “hysbysiad paragraff 3”, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog gwblhau unrhyw addasiadau a ragnodir yn yr hysbysiad. Os na fydd yn cydymffurfio â’r hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol wneud gwaith er mwyn sicrhau cydymffurfio â’r hysbysiad, a chaiff hawlio yn ôl y costau yr aed iddynt wrth wneud hynny gan y person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo. Rhaid i hysbysiad paragraff 3 nodi ar ba sail y caniateir apelio yn erbyn yr hysbysiad. Rhaid apelio drwy gŵyn i’r Llys Ynadon.

17.Pan fydd gwaith wedi’i wneud yn unol â’r wybodaeth a roddir i’r awdurdod lleol yn unol â darpariaethau adran 3, ni chaiff awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad paragraff 3 oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3 nad oedd yr wybodaeth, yn ei farn ef, yn dangos y byddai’r gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1.

18.Pan fydd hysbysiad paragraff 3 wedi’i roi i berson, caiff y person hwnnw hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn bwriadu cael adroddiad am y gwaith y mae’r hysbysiad paragraff 3 yn ymwneud ag ef gan rywun sydd wedi’i gymhwyso’n briodol, ac os bydd yr adroddiad yn arwain yr awdurdod lleol i dynnu’r hysbysiad paragraff 3 yn ôl, caiff yr awdurdod lleol dalu’r person a gafodd yr hysbysiad paragraff 3 y costau yr aed iddynt er mwyn cael yr adroddiad.

19.Mae gan swyddogion awdurdodedig yr awdurdod lleol yr hawl i fynd i mewn i unrhyw fangre at ddibenion gorfodi darpariaethau’r Mesur.

20.Mae gan awdurdod lleol y pŵer i ymgymryd â gwaith profi ei hun, neu i’w gwneud yn ofynnol ymgymryd â’r fath waith, a hynny er mwyn canfod a yw gwaith adeiladu yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a geir yn y Mesur ai peidio.

Atodlen 2 - Gwaith adeiladu a oruchwylir gan rywun ac eithrio awdurdodau lleol

21.Bydd gan yr Atodlen hon effaith pan fydd hysbysiad cychwynnol o dan Ran 2 o Ddeddf Adeiladu 1984 mewn grym mewn perthynas â gwaith adeiladu y mae’r Mesur hwn yn gymwys iddo (pa un ai’r gwaith i gyd neu ran ohono yw’r gwaith adeiladu hwnnw). Tra bo’r hysbysiad mewn grym, ni fydd y swyddogaeth a roddir i awdurdod lleol i orfodi’r Mesur yn arferadwy mewn perthynas â’r gwaith adeiladu, a rhaid i arolygydd cymeradwy orfodi’r Mesur.