ATODLEN 1GORFODI

I13Addasu gwaith tramgwyddus

1

Os na fydd gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio, ar yr adeg a ragnodir yn adran 1(1), â gofynion adran 1(4), ac os yw'r diffyg cydymffurfio â'r gofynion hynny yn parhau, caiff awdurdod lleol drwy hysbysiad ofyn i'r perchennog wneud y cyfryw addasiadau a all fod eu hangen er mwyn i'r gwaith gydymffurfio â'r gofynion hynny, a hynny heb ragfarnu hawl yr awdurdod i ddwyn achos am ddirwy mewn perthynas â'r tramgwyddo.

2

Os gwneir gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo—

a

heb roi'r wybodaeth sydd ei hangen yn ôl adran 3(1), neu

b

er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3), a'r hysbysiad hwnnw'n parhau i fod mewn grym,

caiff yr awdurdod drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodir yn yr hysbysiad, a'r rheini'n ofynion sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4).

3

Os na fydd person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod yn cydymffurfio â'r hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy y mae llys ynadon yn ei ganiatáu ar apêl gan y person hwnnw o dan baragraff 5, caiff yr awdurdod lleol wneud unrhyw addasiadau i'r gwaith y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), a chaiff adennill gan y person hwnnw y costau y mae'r awdurdod wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud.

4

Mewn perthynas â hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod (a elwir yn “hysbysiad paragraff 3”)—

a

rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf a rhaid iddo gynnwys y cyfryw wybodaeth a all fod wedi'u rhagnodi,

b

rhaid iddo ddatgan y caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo, o fewn yr amser a bennir gan baragraff 9, apelio yn erbyn yr hysbysiad i lys ynadon o dan baragraff 5, a

c

ni chaniateir ei roi ar ôl i 12 mis fynd heibio oddi ar ddyddiad cwblhau'r gwaith dan sylw.

5

Ni chaniateir rhoi hysbysiad paragraff 3 os rhoddwyd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan adran 3(1) i'r awdurdod ac os gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno, a hynny ar y sail nad oedd y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), oni bai bod yr awdurdod wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol.

6

Nid yw'r paragraff hwn yn amharu ar hawl awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall i wneud cais am waharddeb i gael addasu unrhyw waith ar y sail nad yw'n cydymffurfio â gofynion adran 1(4), ond os—

a

rhoddwyd gwybodaeth mewn perthynas â'r gwaith i'r awdurdod lleol yn unol ag adran 3(1),

b

na roddodd yr awdurdod yr hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol, ac

c

gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno,

bydd gan y llys, adeg caniatáu'r waharddeb, y pŵer i orchymyn bod yr awdurdod lleol yn talu perchennog y gwaith yr iawndal y mae'r llys yn barnu sy'n gyfiawn, ond, cyn gwneud y cyfryw orchymyn, rhaid i'r llys yn unol â rheolau'r llys drefnu bod yr awdurdod lleol yn un o bartïon yr achos, os nad ydyw eisoes.