Adran 70 – Y penodiadau sydd i’w gwneud gan grwpiau gwleidyddolAdran 71 – Methiant i wneud penodiadau yn unol ag adran 69Adran 72 – Newidiadau yng nghyfansoddiad gweithrediaethAdran 73 – Swyddi gwag achlysurol ymhlith cadeiryddion pwyllgorAdran 74 – Yr awdurdod yn penderfynu ar ddarpariaeth benodi
81.Mae'r adrannau hyn yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer awdurdodau pan na fo adrannau 67 na 68 yn gymwys, sef yn gyffredinol yr awdurdodau hynny y mae eu haelodaeth wedi ei rhannu rhwng nifer o grwpiau gwleidyddol.
82.Nod bras yr adrannau hyn yw'r gofyniad i awdurdodau lleol wneud darpariaeth ar gyfer dyrannu nifer y cadeiryddion pwyllgorau craffu yn gyfrannol, ynghyd â'r amod ychwanegol na chaiff y grŵp (neu'r grwpiau) gwleidyddol sy'n ffurfio gweithrediaeth y cyngor ddyrannu mwy o gadeiryddion craffu i'w grŵp (grwpiau) na'r nifer sy'n gyfrannol i'w gynrychiolaeth (gyfun) yn y cyngor llawn (h.y. yr holl aelodau, p'un a ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol ai peidio). Os nad yw'r hawl i gadeiryddion y grŵp (grwpiau) yn y weithrediaeth yn rhif cyfan, mae'r nifer y mae gan y grŵp (grwpiau) hawl i’w gael i'w dalgrynnu i lawr i'r rhif cyfan agosaf. Mae'r egwyddorion ar gyfer dyrannu cadeiryddion craffu i grwpiau gwleidyddol sy'n ffurfio'r weithrediaeth i'w cael yn is-adran (3) newydd adran 70.
83.Mae gweddill y cadeiryddion craffu i'w dyrannu wedyn i grwpiau gwleidyddol yr wrthblaid, a dyraniad pob grŵp gwrthblaid i fod yn gyfrannol i gryfder y grŵp hwnnw o ran nifer o fewn cyfanswm cyfunol y grwpiau gwrthblaid (is-adran (4) o adran 70). Ni ddylai'r broses o gyfrifo cadeiryddion craffu ar gyfer grwpiau gwrthblaid gymryd i ystyriaeth gynghorwyr nad ydynt yn aelodau o grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod.
84.Mae adran 71 yn nodi beth sydd i ddigwydd os na chaiff unrhyw gadeiryddion pwyllgor eu penodi'n unol ag adran 70. Ni chaiff grŵp (grwpiau) yr weithrediaeth gael mwy o benodiadau. Caiff y grŵp (grwpiau) gwrthblaid sydd wedi llwyr ddefnyddio eu dyraniad cychwynnol o benodiadau gael penodiadau ychwanegol yn gyfrannol i nifer eu penodiadau cychwynnol. Os yw pob un o'r grwpiau gwrthblaid wedi methu â llwyr ddefnyddio ei ddyraniad cychwynnol o benodiadau neu os oes gan grŵp gwrthblaid hawl i benodiad ychwanegol ond nad yw'n ei ddefnyddio, bydd y pŵer penodi yn yr achosion hyn yn dod i ran y pwyllgorau.
85.Os bydd cyfansoddiad y weithrediaeth yn newid, rhaid ailedrych ar ddyraniad y cadeiryddion craffu ac efallai y bydd angen gwneud newidiadau i'r dyraniadau, fel a nodir yn adran 72. Mae'r weithdrefn ar gyfer sefyllfa pan fo swydd cadeirydd craffu yn dod yn wag wedi ei nodi yn adran 73.
86.Mae adran 74 yn caniatáu i awdurdod lleol hepgor y gofyniad i ddilyn y gweithdrefnau uchod os cytunir ar weithdrefn benodi amgen gan bob grŵp gwleidyddol, ar yr amod na fydd y weithdrefn amgen yn arwain at y canlyniad bod y blaid fwyafrifol yn dyrannu nifer mwy o gadeiryddion craffu o'u plaid hwy na'r hyn a fyddai gweithdrefn 70 yn ei ganiatáu.