RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL
8Pennaeth gwasanaethau democrataidd
(1)
Rhaid i awdurdod lleol—
(a)
dynodi un o'i swyddogion i gyflawni'r swyddogaethau yn adran 9 (“swyddogaethau gwasanaethau democrataidd”);
(b)
darparu i'r swyddog hwnnw y staff, y llety a'r adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau'r swyddog hwnnw gael eu cyflawni.
(2)
Caiff pennaeth gwasanaethau democrataidd drefnu i swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a ddarperir o dan yr adran hon.
(3)
Mae swyddog a ddynodir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i'w alw'n bennaeth gwasanaethau democrataidd.
(4)
Ni chaiff awdurdod lleol ddynodi unrhyw un neu ragor o'r canlynol o dan yr adran hon—
(a)
pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
(b)
swyddog monitro'r awdurdod a ddynodir o dan adran 5 o'r Ddeddf honno;
(c)
prif swyddog cyllid yr awdurdod, o fewn ystyr yr adran honno.
9Swyddogaethau gwasanaethau democrataidd
(1)
Y canlynol yw swyddogaethau pennaeth gwasanaethau democrataidd—
(a)
rhoi cymorth a chyngor i'r awdurdod mewn perthynas â'i gyfarfodydd, yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(b)
rhoi cymorth a chyngor i bwyllgorau'r awdurdod (ac eithrio'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraff (e)) ac i aelodau o'r pwyllgorau hynny, yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(c)
rhoi cymorth a chyngor i unrhyw gyd-bwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw, yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(d)
hybu rôl pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;
(e)
rhoi cymorth a chyngor—
(i)
i bwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw neu'r pwyllgorau hynny, a
(ii)
i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod ac i aelodau o'r pwyllgor hwnnw;
(f)
rhoi cymorth a chyngor mewn perthynas â swyddogaethau pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod i bob un o'r canlynol—
(i)
aelodau o'r awdurdod;
(ii)
aelodau gweithrediaeth o'r awdurdod;
(iii)
swyddogion yr awdurdod;
(g)
rhoi cymorth a chyngor i bob aelod o'r awdurdod wrth iddo gyflawni rôl aelod o'r awdurdod, yn ddarostyngedig i is-adran (3);
(h)
llunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
(i)
nifer y staff y mae eu hangen i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, a'u graddau;
(ii)
penodi staff i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;
(iii)
trefnu a rheoli'n briodol staff sy'n cyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd;
(i)
unrhyw swyddogaethau eraill a ragnodir.
(2)
Nid yw cyfeiriadau at “gyngor” ym mharagraffau (a) i (c) yn cynnwys cyngor ynghylch a ddylai neu sut y dylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer, neu fod wedi eu harfer.
(3)
Nid yw'r mathau canlynol o gymorth a chyngor i'w hystyried yn gymorth a chyngor at ddibenion is-adran (1)(g)—
(a)
cymorth a chyngor i aelod o'r awdurdod wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei swyddogaethau fel rhan o weithrediaeth yr awdurdod (ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer o dan is-adran (1)(f));
(b)
cyngor ynghylch a ddylai neu sut y dylai swyddogaethau'r awdurdod gael eu harfer, neu fod wedi eu harfer, mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n cael ei ystyried, neu sydd i'w ystyried, mewn un o gyfarfodydd yr awdurdod, un o gyfarfodydd pwyllgor y cyfeiriwyd ato yn is-adran (1)(b) neu un o gyfarfodydd cyd-bwyllgor y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei drefnu.
(4)
Nid oes dim yn is-adran (1)(h) sy'n effeithio ar ddyletswydd pennaeth gwasanaeth cyflogedig yn adran 4(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(5)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwyllgor (neu gyd-bwyllgor) yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw.
10Dyletswydd i fabwysiadu rheolau sefydlog ynghylch rheoli staff
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdod lleol—
(a)
ymgorffori darpariaeth ragnodedig sy'n ymwneud â rheoli staff a ddarperir o dan adran 8(1)(b) yn ei reolau sefydlog;
(b)
gwneud addasiadau eraill i'r rhai o blith ei reolau sefydlog sy'n ymwneud â rheoli staff.
(2)
Yn yr adran hon nid yw “rheoli staff” yn cynnwys penodi staff neu ddiswyddo staff neu gymryd camau disgyblu eraill yn erbyn staff.
11Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau gwasanaethau democrataidd
(1)
Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor (“pwyllgor gwasanaethau democrataidd”)—
(a)
i arfer swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan adran 8(1)(a) (“dynodi pennaeth gwasanaethau democrataidd”),
(b)
i adolygu pa mor ddigonol yw'r ddarpariaeth gan yr awdurdod o ran staff, llety ac adnoddau eraill i gyflawni swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, a
(c)
i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno.
(2)
Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ei benderfynu yw sut i arfer y swyddogaethau hynny.
12Aelodaeth
(1)
Mae awdurdod lleol i benodi aelodau o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)
bod pob aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o'r awdurdod;
(b)
nad oes mwy nag un o aelodau ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod;
(c)
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nad yw'r arweinydd gweithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(3)
Ni fydd penodi person yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn cael unrhyw effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn union ar ôl ei benodi (p'un ai yn rhinwedd y penodiad ai peidio).
(4)
Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, mae'r newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a fyddai aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
(5)
Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
13Is-bwyllgorau
(1)
Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd—
(a)
penodi un neu ragor o is-bwyllgorau, a
(b)
trefnu i unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau gael ei chyflawni neu eu cyflawni gan is-bwyllgor o'r fath.
(2)
Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyflawni swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddwyd iddo o dan is-adran (1)(b).
14Trafodion etc
(1)
Mae awdurdod lleol i benodi'r person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd (a rhaid iddo beidio â bod yn aelop o grŵp gweithrediaeth).
(2)
Os nad oes unrhyw grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol.
(3)
Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i benodi'r person sydd i gadeirio unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.
(4)
Caiff pob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i benderfynu arno.
(5)
Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)
gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.
(6)
Mae'n ddyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu unrhyw swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (5)(a).
(7)
Nid yw person yn cael ei orfodi gan is-adran (6) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos llys o'r fath.
(8)
Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, i'w drin fel pwyllgor, neu is-bwyllgor, i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).
(9)
At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae i'r ymadroddion “grŵp gweithrediaeth” a “grŵp gwrthblaid” yr un ystyr ag yn adran 75.
15Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml
(1)
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2)
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol gyfarfod hefyd—
(a)
os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu
(b)
os yw traean o leiaf o aelodau'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiadau ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.
(3)
Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor gwasanaethau democrataidd i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.
(4)
Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor gwasanaethau democrataidd rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.
16Cyflawni swyddogaethau
(1)
Ni chaiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd arfer unrhyw swyddogaethau ac eithrio ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.
(2)
Wrth arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau, neu benderfynu ai i'w harfer, rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
17Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdod
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—
(a)
a benodir yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, a
(b)
sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.
(2)
Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
(3)
Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw P—
(a)
yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a
(b)
yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.
(4)
Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor gwasanaethau democrataidd.
18Adroddiadau ac argymhellion gan bennaeth y gwasanaethau democrataidd
(1)
Rhaid i bennaeth gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl llunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 9(1)(h), anfon at bob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod gopi o'r adroddiad neu o'r argymhelliad.
(2)
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ystyried, mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r pwyllgor, unrhyw adroddiad neu argymhelliad a anfonir at aelodau'r pwyllgor o dan yr adran hon.
19Adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataidd
(1)
Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo lunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 11(1)(c), drefnu bod copi ohono'n cael ei anfon at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiad neu argymhellion mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad neu'r argymhelliad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r awdurdod.
20Swyddogaethau awdurdod lleol nad ydynt i'w dirprwyo
Nid yw swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 8(1), 11, 12(1) a (2), 14(1), 15(2)(a) a 19(2) i'w dirprwyo o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
21Swydd pennaeth gwasanaethau democrataidd i fod yn swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol
(1)
Diwygir adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff (f) hepgorer “and”.
(3)
“; and
(h)
the head of democratic services designated under section 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.