Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 26/11/2015.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, PENNOD 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth—
(a)amrywio trefniadau neu osod trefniadau yn lle'r rhai presennol fel bod ei drefniadau gweithrediaeth yn darparu ar gyfer ffurf wahanol ar weithrediaeth, a
(b)os yw'n gwneud amrywiad o'r fath i'r trefniadau, caiff amrywio'r trefniadau mewn ffyrdd eraill (os bydd rhai) sy'n briodol yn ei dyb ef.
(2)Mae'r pwerau a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy'n unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon.
(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle fwy nag unwaith mewn unrhyw gylch etholiadol.
(4)At y diben hwnnw, bernir bod awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) ar yr adeg pan fo'r awdurdod yn pasio penderfyniad o dan adran 38.
(5)Yn yr adran hon, ystyr “cylch etholiadol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw pob cyfnod—
(a)sy'n dechrau gydag etholiadau cyffredin i'r awdurdod, a
(b)sy'n dod i ben gyda'r etholiadau cyffredin nesaf i'r awdurdod.
(6)I gael y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 37).
(2)Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
(3)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—
(a)copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a
(b)(gyda'r copi o'r cynigion) ddatganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe byddent yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ai i gymeradwyo'r cynigion ai peidio.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu penderfyniad.
(6)Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad am benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach i roi'r cynigion ar waith ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 38 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—
(a)datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,
(b)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac
(c)manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 39 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Rhaid i'r cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn un y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm.
(2)Ond, mewn unrhyw achos arall, ni chaiff y cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.
(3)Am ddarpariaeth ynghylch refferenda o dan yr adran hon, gweler adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 40 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os nad yw newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.
(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid mewn trefniadau gweithrediaeth heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 41 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm.
(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4).
(3)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—
(a)sy'n dechrau ddeufis, a
(b)sy'n dod i ben chwe mis
ar ôl y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.
(4)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol, os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth, yn gwneud y newid hwnnw cyn pen cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 42 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.
(2)Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol.
(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—
(a)sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,
(b)os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm, sy'n datgan—
(i)ei bod yn ddarostyngedig i'r gymeradwyaeth honno, a
(ii)dyddiad y refferendwm,
(c)sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,
(d)sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,
(e)sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan y cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac
(f)sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.
(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 43 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.
(2)Ond o ran newid mewn trefniadau gweithrediaeth—
(a)os yw'n ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a
(b)os nad yw'n cael ei gymeradwyo yn y refferendwm,
ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 44 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol—
(a)os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a
(b)os nad yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn cael ei gymeradwyo yn y refferendwm.
(2)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—
(a)sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,
(b)sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny, ac
(c)sy'n datgan y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r ffurf ar weithrediaeth y darperir ar ei chyfer gan ei drefniadau gweithrediaeth presennol.
(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 45 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
At ddibenion y Bennod hon, bydd yn ofynnol cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth mewn refferendwm os gweithrediaeth maer a chabinet yw—
(a)ffurf bresennol y weithrediaeth, neu
(b)ffurf arfaethedig y weithrediaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 46 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
Yn y Bennod hon—
ystyr “cynigion” (“proposals”) yw cynigion o dan adran 38;
ystyr “ffurf arfaethedig ar weithrediaeth” (“proposed form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth y mae awdurdod lleol, yn ei gynigion, yn arfaethu dechrau ei gweithredu;
ystyr “ffurf bresennol ar weithrediaeth” (“existing form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth sy'n cael ei gweithredu gan awdurdod lleol sy'n gwneud cynigion;
ystyr “newid mewn trefniadau gweithrediaeth” (“change of executive arrangements”) yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth a gynigir yn y cynigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 47 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Measure you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Measure without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: