RHAN 5SWYDDOGAETHAU AWDURDOD LLEOL: CYFLAWNI GAN BWYLLGORAU A CHYNGHORWYR
Arfer swyddogaethau gan gynghorwyr
I156Arfer swyddogaethau gan gynghorwyr
1
Caiff aelod gweithrediaeth hŷn awdurdod lleol wneud trefniadau i aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod gweithrediaeth arfer un o swyddogaethau'r awdurdod lleol y mae'r weithrediaeth yn gyfrifol amdani.
2
Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau i aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod gweithrediaeth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau eraill yr awdurdod.
3
O ran aelod nad yw'n aelod gweithrediaeth (N), dim ond swyddogaethau—
a
mewn perthynas â'r adran etholiadol y mae N wedi ei ethol drosti, neu
b
mewn perthynas â bod N yn aelod swyddogol o gorff ac eithrio'r awdurdod lleol
y caiff trefniadau o dan yr adran hon ddarparu i N eu harfer.
4
Ni cheir gwneud trefniadau o dan yr adran hon ar gyfer arfer swyddogaeth—
a
os yw wedi ei phennu, neu i'r graddau y mae wedi ei phennu, mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu
b
mewn dull, neu mewn amgylchiadau, a bennwyd mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.
5
Nid yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon ar gyfer arfer swyddogaeth yn atal arfer y swyddogaeth honno mewn modd arferol.
6
Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i'r aelod gweithrediaeth hŷn, neu'r awdurdod lleol, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
7
Yn yr adran hon—
a
mae cyfeiriad at arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer swyddogaeth, neu sy'n gydnaws neu'n gysylltiedig ag arfer y swyddogaeth;
b
mae cyfeiriad at swyddogaeth y mae gweithrediaeth awdurdod lleol yn gyfrifol amdani i'w ddehongli'n unol ag adran 13(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
c
mae cyfeiriad at fod N yn aelod swyddogol o gorff yn gyfeiriad at fod N yn aelod o'r corff yn rhinwedd—
i
penodiad gan awdurdod lleol,
ii
penodiad, ac eithrio penodiad gan awdurdod lleol, a wnaed ar sail enwebiad neu argymhelliad gan awdurdod lleol neu gyda chymeradwyaeth awdurdod lleol, neu
iii
penodiad, ac eithrio penodiad gan awdurdod lleol, a wnaed i gydymffurfio â gofyniad i benodi aelod o awdurdod lleol;
d
mae cyfeiriad (mewn perthynas ag N) at benodiad, enwebiad neu argymhelliad gan awdurdod lleol, neu gymeradwyaeth awdurdod lleol, yn gyfeiriad at benodiad, enwebiad neu argymhelliad a wnaed gan y canlynol, neu gymeradwyaeth a roddir gan y canlynol—
i
yr awdurdod lleol y mae N yn aelod ohono, neu
ii
gweithrediaeth yr awdurdod lleol hwnnw;
e
mae cyfeiriad at arfer arferol swyddogaeth yn gyfeiriad at arfer y swyddogaeth gan y person neu'r personau sy'n ei harfer pan nad oes trefniadau wedi eu gwneud o dan yr adran hon.
8
Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol yn gyfeiriadau at awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth.
9
Yn yr adran hon—
ystyr “aelod gweithrediaeth hŷn” (“senior executive member”) yw—
- a
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;
- b
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig;
- a
ystyr “aelod nad yw'n aelod gweithrediaeth” (“non-executive member”) yw aelod o awdurdod lleol nad yw'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod.
I257Darpariaeth ganlyniadol
1
Yn adran 100EA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (archwilio cofnodion sy'n ymwneud â swyddogaethau sy'n arferadwy gan aelodau)—
a
yn is-adran (1)—
i
yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate authority”;
ii
ar ôl “2007” mewnosoder “or under section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”;
b
ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
2A
In this section “appropriate authority” means—
a
in relation to local authorities in England, the Secretary of State;
b
in relation to local authorities in Wales, the Welsh Ministers.
c
yn is-adran (3), ar ôl “Parliament” mewnosoder “(in the case of regulations made by the Secretary of State) or a resolution of the National Assembly for Wales (in the case of regulations made by the Welsh Ministers)”.
2
Yn Neddf Llywodraeth Leol 2000—
a
yn adran 13 (swyddogaethau y mae gweithrediaeth yn gyfrifol amdanynt), yn is-adran (9)(b), ar ôl “in England)” mewnosoder “or under section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”;
b
yn adran 21 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (13)(aa), ar ôl “in England)” mewnosoder “or under section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.