RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU
Darparu gwybodaeth
77Blaen-gynlluniau a gwybodaeth arall
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ragnodedig ynghylch arfer swyddogaethau'r canlynol—
(a)
pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, neu
(b)
is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw,
ar gael i aelodau o'r cyhoedd neu aelodau o'r awdurdod, neu mewn cysylltiad â hynny.
(2)
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a)
darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth ragnodedig ar gael cyn arfer swyddogaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno, a
(b)
darpariaeth o ran y dull y bydd gwybodaeth ar gael ac ar ba ffurf y bydd yr wybodaeth ar gael.