RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU
Strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu
79Canllawiau a chyfarwyddiadau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi i awdurdod lleol—
(a)
canllawiau ynghylch strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu'r awdurdod, neu
(b)
cyfarwyddiadau ynghylch strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu'r awdurdod.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
(3)
Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
(4)
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at strwythur pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) gyfeiriadau ar y pethau a ganlyn—
(a)
y nifer o bwyllgorau trosolwg a chraffu sydd gan yr awdurdod;
(b)
y nifer o is-bwyllgorau (os oes rhai) sydd gan bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;
(c)
swyddogaethau pwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod;
(d)
swyddogaethau is-bwyllgorau i bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod.