RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 2PWYLLGORAU F1LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO
81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau F2llywodraethu ac archwilio
(1)
Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor F3(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”) —
(a)
i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,
(b)
i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.
(c)
i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol F4, asesu perfformiad a llywodraethu corfforaethol,
(d)
i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,
F5(da)
i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,
(db)
i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,
(e)
i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac
(f)
i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.
F6(1A)
Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.
(2)
Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor F7llywodraethu ac archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.
(3)
Y pwyllgor F8llywodraethu ac archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.
82Aelodaeth
(1)
Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor F9llywodraethu ac archwilio.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
F12(b)
bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;
(c)
(d)
nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod F15o’r pwyllgor hwnnw.
(3)
(4)
Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor F18llywodraethu ac archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).
(5)
Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor F19llywodraethu ac archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor F19“llywodraethu ac archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
F20(5A)
Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—
(a)
aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a
(b)
aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).
(5B)
Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.
(5C)
Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.
F21(6)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F22(7)
Mae pwyllgor F23llywodraethu ac archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
83Trafodion etc
F24(1)
Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—
(a)
gan gadeirydd y pwyllgor, neu
(b)
os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.
(2)
Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.
(3)
Caiff holl aelodau pwyllgor F25llywodraethu ac archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.
(4)
Caiff pwyllgor F26llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)
gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.
(5)
Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).
(6)
Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.
(7)
Mae pwyllgor F27llywodraethu ac archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).
F28(8)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
84Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml
(1)
Rhaid i bwyllgor F29llywodraethu ac archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2)
Rhaid i bwyllgor F30llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—
(a)
os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu
(b)
os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.
(3)
Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor F31llywodraethu ac archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.
(4)
Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor F32llywodraethu ac archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.
85Canllawiau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol—
(a)
ynghylch swyddogaethau pwyllgorau F33llywodraethu ac archwilio ac arfer y swyddogaethau hynny, neu
(b)
ynghylch aelodaeth o bwyllgorau F34o’r fath .
(2)
Rhaid i awdurdod lleol a'i bwyllgor F35llywodraethu ac archwilio roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).
86Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdod
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—
(a)
a benodir yn aelod o bwyllgor F36llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol, a
(b)
sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.
(2)
Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor F37llywodraethu ac archwilio.
(3)
Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—
(a)
yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a
(b)
yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.
(4)
Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor F38llywodraethu ac archwilio.
87Dehongli etc
(1)
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).
(2)
Yn y Bennod hon—
ystyr “aelod hŷn awdurdod lleol” (“senior member of a local authority”) yw—
(a)
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;
(b)
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer;
F39...
F40...
F41“ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—
(a)
nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,
(b)
nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac
(c)
nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;
F42(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .