xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO

81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau [F2llywodraethu ac] archwilioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor [F3(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)]

(a)i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,

(b)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.

(c)i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol [F4, asesu perfformiad] a llywodraethu corfforaethol,

(d)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,

[F5(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,]

(e)i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac

(f)i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.

[F6(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.]

(2)Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor [F7llywodraethu ac] archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.

(3)Y pwyllgor [F8llywodraethu ac] archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.

82AelodaethLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor [F9llywodraethu ac] archwilio.

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod dwy ran o dair F10... o [F11aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelodau o'r awdurdod;

[F12(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;]

(c)nad oes mwy nag un o [F13aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F14(ond gweler is-adran (8))] [F15neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth] ;

(d)nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod [F16o’r pwyllgor hwnnw] .

(3)Nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodaeth pwyllgor [F17llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gynnwys aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F18neu gynorthwyydd i’w weithrediaeth] .

(4)Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor [F19llywodraethu ac] archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).

(5)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F20llywodraethu ac] archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F20“llywodraethu ac] archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

[F21(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—

(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a

(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).

(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.

(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.]

F22(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F23(7)Mae pwyllgor [F24llywodraethu ac] archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.]

[F25(8)Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol wedi eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor llywodraethu ac archwilio yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(c)).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 82 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

83Trafodion etcLL+C

[F26(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.]

(3)Caiff holl aelodau pwyllgor [F27llywodraethu ac] archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.

[F28(3A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (3).]

(4)Caiff pwyllgor [F29llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(5)Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).

(6)Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.

(7)Mae pwyllgor [F30llywodraethu ac] archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

F31(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

84Cynnal cyfarfodydd: pa mor amlLL+C

(1)Rhaid i bwyllgor [F32llywodraethu ac] archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)Rhaid i bwyllgor [F33llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

[F34(2A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).]

(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor [F35llywodraethu ac] archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor [F36llywodraethu ac] archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.

85CanllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol—

(a)ynghylch swyddogaethau pwyllgorau [F37llywodraethu ac] archwilio ac arfer y swyddogaethau hynny, neu

(b)ynghylch aelodaeth o bwyllgorau [F38o’r fath] .

(2)Rhaid i awdurdod lleol a'i bwyllgor [F39llywodraethu ac] archwilio roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (1).

86Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdodLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—

(a)a benodir yn aelod o bwyllgor [F40llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol, a

(b)sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.

(2)Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor [F41llywodraethu ac] archwilio.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—

(a)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a

(b)yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.

(4)Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor [F42llywodraethu ac] archwilio.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 86 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

87Dehongli etcLL+C

(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).

(2)Yn y Bennod hon—

F46(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F46A. 87(3) wedi ei diddymu (10.7.2011) gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (nawm 4), aau. 36(2), 178(2), Atod. 4 Rhn. B (ynghyd ag a. 36(5)-(8))

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 87 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)