xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ystyr “local authority” yn Rhan 1 o'r Ddeddf honno), ar ddiwedd is-adran (1)(b) mewnosoder “or a community council”.
(2)Yn adran 2 o'r Ddeddf honno (hybu llesiant), mewnosoder y canlynol ar ôl is-adran (3B)—
“(3C)The community strategy for the area of a community council is the strategy referred to in subsection (3B) that is published by the county council or county borough council in whose area lies the community or communities for which the community council is established.”.
(3)Yn adran 5 o'r Ddeddf honno (y pŵer i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau), mewnosoder y canlynol ar ôl is-adran (6)—
“(7)The reference to local authorities in subsection (1) does not include community councils.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 126 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad os ydynt o'r farn bod y deddfiad yn atal neu'n rhwystro'r cynghorau cymuned rhag arfer eu pwerau o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (hybu llesiant).
(2)Caniateir arfer y pŵer o dan is-adran (1)—
(a)mewn perthynas â phob cyngor cymuned,
(b)mewn perthynas â chynghorau cymuned neilltuol, neu
(c)mewn perthynas â disgrifiadau neilltuol o gyngor cymuned.
(3)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i wneud addasiadau i ddeddfiad am gyfnod neilltuol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 127 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gyngor cymuned hyd oni fydd yr awdurdod lleol y lleolir y cyngor cymuned yn ei ardal wedi cyhoeddi strategaeth gymunedol o dan adran 39(4) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(2)Pan fo'r adran hon yn gymwys i gyngor cymuned, mae'r cyfeiriad yn adran 2(3C) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 at y strategaeth gymunedol ar gyfer ardal y cyngor cymuned i'w ddarllen fel cyfeiriad at strategaeth gymunedol y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol o dan adran 4 o'r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 128 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)