Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

PENNOD 6LL+CPWERAU CYNGHORAU CYMUNED I HYBU LLESIANT

126Pwerau cynghorau cymuned i hybu llesiantLL+C

(1)Yn adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ystyr “local authority” yn Rhan 1 o'r Ddeddf honno), ar ddiwedd is-adran (1)(b) mewnosoder “or a community council”.

F1(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 126 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)

127Addasiadau i ddeddfiadau sy'n atal neu'n rhwystro cyngor cymuned rhag arfer ei bwerau llesiantLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad os ydynt o'r farn bod y deddfiad yn atal neu'n rhwystro'r cynghorau cymuned rhag arfer eu pwerau o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (hybu llesiant).

(2)Caniateir arfer y pŵer o dan is-adran (1)—

(a)mewn perthynas â phob cyngor cymuned,

(b)mewn perthynas â chynghorau cymuned neilltuol, neu

(c)mewn perthynas â disgrifiadau neilltuol o gyngor cymuned.

(3)Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i wneud addasiadau i ddeddfiad am gyfnod neilltuol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 127 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)

F2128Darpariaeth drosiannolLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 128 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)