PENNOD 7LL+CGRANTIAU I GYNGHORAU CYMUNED
129Pŵer Gweinidogion Cymru i dalu grantiau i gynghorau cymunedLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant i gyngor cymuned tuag at wariant a dynnir ganddo neu sydd i'w dynnu ganddo.
(2)Mae swm grant o dan yr adran hon a'r dull o'i dalu i fod yn swm ac yn ddull a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3)Caniateir talu grant o dan yr adran hon o dan yr amodau hynny a benderfynir gan y person sy'n ei dalu.
(4)Caiff amodau o dan is-adran (3) gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a)darpariaeth o ran defnyddio'r grant;
(b)darpariaeth o ran yr amgylchiadau y mae'n rhaid ad-dalu oddi tanynt y grant cyfan neu ran ohono.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 129 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)