Gorfodi
156Cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion
(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n ymwneud â materion perthnasol a osodir arno gan y Mesur hwn neu yn rhinwedd y Mesur hwn, cânt gyfarwyddo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofyniad.
(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—
(a)y gofyniad;
(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd;
(c)y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd;
(d)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymryd y camau.
(3)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan yr adran hon drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.