RHAN 8LL+CF1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

Prif swyddogaethau'r PanelLL+C

142Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodauLL+C

(1)Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol—

(a)y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt;

(b)yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt.

(2)Dyma yw materion perthnasol—

(a)materion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau o awdurdodau perthnasol;

(b)cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2.

(3)Wedi iddo arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r Panel osod un o'r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—

(a)y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod;

(b)yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.

(4)Ar ôl penderfynu'r materion perthnasol y ceir awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau amdanynt o dan is-adran (1) a phennu'r swm neu'r uchafswm ar gyfer pob mater o dan is-adran (3), caiff y Panel benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion penodol i fwy na chyfran benodedig [F2neu nifer penodedig] o'r aelodau o awdurdod.

(5)Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4) fod yn fwy na hanner cant y cant oni fydd cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi ei sicrhau.

[F3(5A)Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru.]

(6)Caiff y Panel osod—

(a)y ganran uchaf neu'r gyfradd uchaf arall y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w defnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol yn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)mynegrif y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol hynny yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag y bydd y Panel yn penderfynu.

(7)Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (6) er mwyn—

(a)gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â'r un mater;

(b)gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.

(8)Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (6), rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.

(9)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (6) mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

(10)At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw'n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—

(a)fel aelod o awdurdod perthnasol, neu

(b)fel aelod o gorff y penodir yr aelod yn aelod ohono gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 142 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(c)

I3A. 142 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)

143Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—

(a)nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a

(b)a chanddynt am y tro hawl i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).

(2)Caiff y Panel benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(3)Caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3A. 143(1)(b)(3) wedi ei eithrio (21.1.2021 at ddibenion penodedig, 1.4.2021 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(f)(2)(7), Atod. 12 para. 1(7); O.S. 2021/297, ergl. 2(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 143 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I5A. 143 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(d)

I6A. 143 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(a)

[F4143ASwyddogaethau sy’n ymwneud â [F5chydnabyddiaeth ariannol] penaethiaid gwasanaethau cyflogedigLL+C

(1)Caiff y Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys am—

(a)unrhyw bolisi yn natganiad yr awdurdod ar bolisïau tâl sy’n ymwneud â [F6chydnabyddiaeth ariannol] pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod;

(b)unrhyw newid arfaethedig i [F6gydnabyddiaeth ariannol] pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod.

(2)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 38 neu 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys, cyn iddo newid [F7cydnabyddiaeth ariannol] pennaeth ei wasanaeth cyflogedig mewn modd nad yw’n gymesur â newid i [F8gydnabyddiaeth ariannol] staff arall yr awdurdod—

(a)ymgynghori â’r Panel am y newid arfaethedig, a

(b)rhoi sylw i unrhyw argymhelliad a gaiff oddi wrth y Panel wrth iddo benderfynu p’un ai i fynd rhagddo i wneud y newid ai peidio.

[F9(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn [F10cydnabyddiaeth ariannol] wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r [F10cydnabyddiaeth ariannol] yn [F11cael ei darparu] oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y [F10cydnabyddiaeth ariannol] ar ôl derbyn argymhelliad.

(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid [F12cydnabyddiaeth ariannol] ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—

(a)rhaid iddo ailystyried y [F12cydnabyddiaeth ariannol] , a

(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.]

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys roi unrhyw wybodaeth i’r Panel y mae’n rhesymol i’r Panel ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei rhoi iddo mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

[F13(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.]

(5)Caiff y Panel gyhoeddi unrhyw argymhellion y mae yn eu gwneud o dan yr adran hon.

[F14(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F15gydnabyddiaeth ariannol] ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a

(b)peidio â newid y [F15cydnabyddiaeth ariannol] cyn—

(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu

(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.

(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i [F16gydnabyddiaeth ariannol] yn golygu y bydd yr awdurdod yn [F17darparu] (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn [F17darparu] ) [F16cydnabyddiaeth ariannol] sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y [F16cydnabyddiaeth ariannol] , a

(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.]

(6)Rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(7)Yn yr adran hon—

Diwygiadau Testunol

F5Gair yn a. 143A heading wedi ei amnewid (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 55(7), 175(3)(i)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

144Awdurdodau perthnasol, aelodau etc.LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae awdurdod yn “awdurdod perthnasol” os daw o fewn un o'r disgrifiadau a ganlyn—

(a)awdurdod lleol;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol (a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995) ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

F20(da). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F21(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen gydag is-adran (2).

(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)maer etholedig i'r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),

(b)aelod gweithrediaeth etholedig o'r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno), ac

(c)aelod cyfetholedig o'r awdurdod.

(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod neu sy'n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod ac sy'n cynrychioli'r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu'r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a

(b)a chanddo hawl i bleidleisio ar gwestiynau sydd i'w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

[F22(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,

(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac

(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).

(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—

(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(e).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 144 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)