RHAN 8AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU
Taliadau gan awdurdodau perthnasol
I1153Cydymffurfio â gofynion y Panel
1
Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r gofynion a osodir arno gan adroddiad blynyddol.
2
Caiff y Panel fonitro gwneud taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; ac wrth wneud hynny, caiff y Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol roi iddo unrhyw wybodaeth y mae'n ei phennu am—
a
y materion sy'n faterion perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;
b
ceisiadau i'r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
c
taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.
3
Caiff y Panel fonitro gwneud taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol; ac wrth wneud hynny, caiff y Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol roi iddo unrhyw wybodaeth y mae'n ei phennu am—
a
yr aelodau o'r awdurdod y mae'n ofynnol i'r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
b
taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.
4
Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â gofyniad a osodir arno o dan is-adran (2) neu (3).
I2I4I6154Aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw aelod o awdurdod perthnasol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r swyddog priodol i'r awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai'n llwyr neu i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â'r hawl i gael taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn yr hysbysiad.
2
Nid yw'r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adroddiad blynyddol i wneud taliadau mewn cysylltiad â'r materion perthnasol hynny a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw'n gymwys yn yr achos hwnnw i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad); ac mae adran 153(1) i'w darllen yn unol â hynny.
3
Mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
I3155Peidio â gwneud taliadau
I71
Ni chaniateir i awdurdod perthnasol wneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson sydd wedi ei atal neu wedi ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.).
I5I82
Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achosion eraill y maent o'r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio â gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd.
I5I83
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Panel.
I5I84
Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (2) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.
I95
Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu taliadau a wnaed mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pryd nad oedd gan y person hwnnw hawl i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw un o'r rhesymau canynol—
a
gwnaed y taliadau yn groes i'r gwaharddiad yn is-adran (1);
b
gwnaed y taliadau yn groes i'r gyfarwyddyd o dan is-adran (2);
c
yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod.