xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

(a gyflwynwyd gan adran 35)

ATODLEN 1LL+CNEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

RHAN 1LL+CDARPARIAETHAU CYFFREDINOL

RhagymadroddLL+C

1Mae'r Atodlen hon yn gymwys i awdurdod lleol os yw adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol iddo newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cynigion ar gyfer symud at weithredu trefniadau gweithrediaethLL+C

2(1)Rhaid i'r awdurdod lunio cynigion i newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.LL+C

(2)Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—

(a)copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a

(b)(gyda'r copi o'r cynigion) datganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe bydden yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraffau (1) a (3) o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y daw adran 35 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cynnwys cynigionLL+C

3Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)manylion unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

RefferendaLL+C

4(1)Os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, rhaid i'r cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, ni chaiff y cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(3)Mae adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (darpariaethau mewn cysylltiad â refferenda) yn cael effaith fel pe bai is-adran (9) yn cynnwys cyfeiriad at refferendwm ar newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru)LL+C

5(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid i drefniadau gweithrediaeth cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, ac heb fod yn hwyrach na hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith newid i weithrediaeth maer a chabinetLL+C

6(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-baragraffau (3) a (4).

(3)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ddeufis, ac

(b)sy'n dod i ben chwe mis,

ar ôl y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

(4)Os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo'r newid i drefniadau gweithrediaeth, rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud y newid hwnnw o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Cyhoeddusrwydd i gynigionLL+C

7(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, sy'n datgan—

(i)ei bod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm, a

(ii)dyddiad y refferendwm

(c)sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,

(d)sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,

(e)sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac

(f)sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Rhoi cynigion ar waithLL+C

8(1)Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

(2)Ond o ran y ffurf arfaethedig ar weithrediaeth—

(a)os gweithrediaeth maer a chabinet yw, a

(b)os nad yw'n cael ei chymeradwyo n y refferendwm ar y newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth,

ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

RHAN 2LL+CDARPARIAETHAU ERAILL SY'N GYMWYS PAN FO REFFERENDWM YN OFYNNOL

Cynigion amlinellol wrth gefn rhag ofn y gwrthodir newid mewn refferendwmLL+C

9(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio amlinelliad o'r cynigion wrth gefn (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion i newid i weithrediaeth maer a chabinet mewn refferendwm, a rhaid iddo'i gymeradwyo drwy benderfyniad.

(3)Cynigion yw cynigion wrth gefn ar gyfer gwneud newid i drefniadau gweithrediaeth sy'n darparu ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(4)Mae paragraff 2(2) yn gymwys i'r cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys i gynigion o dan y paragraff hwnnw.

(5)Rhaid i'r cynigion amlinellol wrth gefn gynnwys amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith (yn unol â pharagraff 11) gynigion manwl wrth gefn os digwydd na chymeradwyir newid i weithrediaeth maer a chabinet yn y refferendwm.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(1).

(7)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion amlinellol wrth gefn y mae wedi eu cymeradwyo at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (7) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Camau gweithredu os gwrthodir newid mewn refferendwmLL+C

10(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol—

(a)os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, a

(b)os nad yw'r ffurf arfaethedig yn cael ei chymeradwyo yn y refferendwm ar newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,

(b)sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny,

(c)sy'n nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol, a

(d)sy'n datgan bod yr awdurdod, o dan y cynigion amlinellol wrth gefn, yn bwriadu gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion manwl wrth gefn sy'n seiliedig ar y cynigion amlinellol wrth gefn, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.

(5)Mae paragraffau 2(2), 3 a 7(2) a (3) yn gymwys i'r cynigion manwl wrth gefn fel y maent yn gymwys i gynigion o dan baragraff 2.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion manwl wrth gefn at Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (6) o fewn y cyfnod o dau fis sy'n dechrau ar ddiwrnod y refferendwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefnLL+C

11Mae'n rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith y cynigion manwl wrth gefn fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, a heb fod yn hwyrach na hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefnLL+C

12Rhaid i'r awdurdod lleol roi ar waith ei gynigion manwl wrth gefn yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

RHAN 3LL+CAMRYWIOL

Methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgenLL+C

13(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y bydd awdurdod lleol yn methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen a dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddarparu bod yr awdurdod lleol—

(a)yn rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a

(b)yn dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru (“trefniadau gweithrediaeth gosodedig”).

(3)Mae trefniadau gweithrediaeth gosodedig i'w trin fel pe baent wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ei hun.

(4)Mae paragraffau 7(2) a (3)(c) i (e) yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth gosodedig fel y maent yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth mewn cynigion o dan baragraff 2.

(5)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r darpariaethau hynny ym mharagraff 7 (fel y maent yn gymwys yn rhinwedd is-baragraff (4)) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn sy'n darparu ar gyfer y trefniadau gweithrediaeth gosodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Y trefniadau i'w trin fel pe baent yn cael eu gweithredu ar ôl pasio penderfyniadLL+C

14Mae trefniadau gweithrediaeth sy'n dod yn weithredol yn unol ag adran 35 a'r Atodlen hon i'w trin fel pe baent yn cael eu gweithredu ar ôl i'r awdurdod lleol basio penderfyniad o dan adran 38.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

DehongliLL+C

15Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cynigion” (“proposals”) (ac eithrio mewn cysylltiad â chynigion wrth gefn) yw cynigion o dan baragraff 2;

  • ystyr “cynigion amlinellol wrth gefn” (“outline fall-back proposals”) yw cynigion o dan baragraff 9(2);

  • ystyr “cynigion manwl wrth gefn” (“detailed fall-back proposals”) yw cynigion o dan baragraff 10(4); mae i'r ymadrodd “cynigion wrth gefn” (“fall-back proposals”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 9(3);

  • ystyr “ffurf arfaethedig ar weithrediaeth” (“proposed form of executive”) yw'r ffurf ar weithrediaeth y mae awdurdod lleol, mewn cynigion o dan baragraff 2, neu mewn cynigion wrth gefn, yn bwriadu dechrau ei gweithredu;

  • ystyr “newid i drefniadau gweithrediaeth” (“change to executive arrangements”) yw'r newid i drefniadau gweithrediaeth a gynigir mewn cynigion neu mewn cynigion wrth gefn.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)