13(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru y bydd awdurdod lleol yn methu â rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen a dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddarparu bod yr awdurdod lleol—
(a)yn rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a
(b)yn dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth ar ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru (“trefniadau gweithrediaeth gosodedig”).
(3)Mae trefniadau gweithrediaeth gosodedig i'w trin fel pe baent wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol ei hun.
(4)Mae paragraffau 7(2) a (3)(c) i (e) yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth gosodedig fel y maent yn gymwys i drefniadau gweithrediaeth mewn cynigion o dan baragraff 2.
(5)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r darpariaethau hynny ym mharagraff 7 (fel y maent yn gymwys yn rhinwedd is-baragraff (4)) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn sy'n darparu ar gyfer y trefniadau gweithrediaeth gosodedig.