ATODLEN 1NEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Cynigion ar gyfer symud at weithredu trefniadau gweithrediaeth

Refferenda

4

(1)

Os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, rhaid i'r cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)

Os gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, ni chaiff y cynigion ddarparu bod y newid i drefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(3)

Mae adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (darpariaethau mewn cysylltiad รข refferenda) yn cael effaith fel pe bai is-adran (9) yn cynnwys cyfeiriad at refferendwm ar newid trefniadau amgen yn drefniadau gweithrediaeth yn unol ag adran 35.