ATODLEN 2Y PANEL
I11Aelodaeth
1
F1Dim llai na 3, a dim mwy na 7, aelod sydd i'r Panel ac fe'u penodir gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi un o'r aelodau'n Gadeirydd.
3
Rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith yn Is-gadeirydd.
4
Mae'r canlynol wedi eu anghymhwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel—
a
aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b
aelod o Dŷ'r Cyffredin;
c
aelod o Dŷ'r Arglwyddi;
F3d
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
e
aelod o awdurdod lleol neu o gyngor cymuned;
f
person sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu gyngor cymuned.
F25
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I22Deiliadaeth
1
Mae aelodau'r Panel yn dal eu swyddi, ac yn gadael eu swyddi, yn unol â thelerau eu penodiad, sef y telerau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.
2
Ni chaniateir penodi person yn aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.
3
Ond mae gan berson sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel hawl i gael ei ailbenodi.
4
Mae person a benodir i lenwi sedd wag achlysurol yn aelodaeth y Panel yn gwasanaethu fel aelod hyd at y dyddiad y byddai cyfnod aelodaeth y person y llenwyd ei sedd yn dod i ben.
5
Mae aelod o'r Panel sy'n dal swydd Cadeirydd neu Is-gadeirydd yn gwneud hynny nes daw cyfnod aelodaeth y person hwnnw i ben.
I33Cyfarfodydd
1
Rhaid i'r Panel gyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr.
2
Cworwm y Panel yw tri a rhaid iddo gynnwys y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd.
3
Y Cadeirydd(neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd) sy'n llywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.
4
Caiff aelodau'r Panel (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan 8) reoleiddio gweithdrefnau'r Panel.
5
Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu mewn cyfarfod o aelodau'r Panel drwy fwyafrif o'r pleidleisiau sy'n cael eu bwrw gan yr aelodau hynny sy'n bresennol yn y cyfarfod.
6
Os yw nifer y pleidleisiau ar gwestiwn sydd i'w benderfynu yn gyfartal, mae gan y person sy'n llywyddu'r cyfarfod ail bleidlais neu'r bleidlais fwrw.
I44Gwybodaeth
Caiff y Panel, mewn cysylltiad â chyflawni ei swyddogaethau, geisio gwybodaeth neu gyngor.
I55Treuliau, cymorth gweinyddol etc.
1
Rhaid i Weinidogion Cymru dalu treuliau a dynnir gan y Panel (naill ai gan y Panel fel corff neu gan aelodau unigol o'r Panel) wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r Panel (neu swyddogaethau aelodau'r Panel yn rhinwedd eu swydd).
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau i aelodau'r Panel.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cymorth gweinyddol ar gael i'r Panel.