xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynwyd gan adran 160)

ATODLEN 3TALIADAU A PHENSIYNAU: MÅN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Llywodraeth Leol 1972

1(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 94(5) (lwfansau llywodraeth leol i beidio â chyfrif fel buddiant ariannol at ddibenion gwahardd pleidleisio pan fo gan aelod fuddiant ariannol), ar ôl “1989” mewnosoder “or under any provision of Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)Mae adrannau 173 i 178 (lwfansau i aelodau) yn peidio â chael effaith.

(4)Yn adran 246(16) (cymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i ymddiriedolwyr siarter), ar ôl “above” mewnosoder “and (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(5)Yn adran 249(4)(b) (lwfans nad yw'n daladwy i henaduriaid mygedol am fod yn bresennol mewn seremonïau dinesig), ar y diwedd mewnosoder “or Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

2(1)Diwygir adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau lwfansau i aelodau o awdurdodau lleol) fel a ganlyn.

(2)Hepgorer is-adrannau (1) i (3), (3B), (3D), (3E) a (3G) i (6).

(3)Yn lle is-adran (3A) (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n galluogi awdurdodau lleol i benderfynu ar hawl i arian rhodd), rhodder—

(3A)Regulations may be made by the Welsh Ministers to make provision for or in connection with—

(a)enabling county councils or county borough councils to determine which members of the council are to be entitled to gratuities,

(b)treating such payments relating to relevant matters (within the meaning of Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011) as may be specified in the regulations as amounts in respect of which such gratuities are payable..

Deddf yr Amgylchedd 1995

3Ym mharagraff 11 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (cymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i awdurdodau Parciau Cenedlaethol), hepgorer is-baragraffau (1) a (2).

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

4(1)Diwygir Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 94(5C) (pŵer i gymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i banelau apelau derbyn), ar ôl “1972” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

(3)Yn adran 95(3B) (pŵer i gymhwyso darpariaethau am lwfansau awdurdodau lleol i banelau apelau derbyn yn achos disgyblion sydd wedi eu gwahardd o ddwy neu ragor o ysgolion), ar ôl “1972” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000

5(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.

(2)Yn adran 99(1) (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau etc. mewn rheoliadau am bensiynau llywodraeth leol), ar y diwedd mewnosoder “; and for the purposes of the application of this subsection to Wales, the reference to pensions and allowances is to be ignored.”

(3)Mae adran 100 (pŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau awdurdodau lleol) yn peidio â chael effaith.

Deddf Addysg 2002

6Yn adran 52(6) o Ddeddf Addysg 2002 (pŵer i gymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i banelau sy'n ymdrin â gwahardd disgyblion), ar ôl “1972 (c. 70)” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.

Deddf Addysg a Sgiliau 2008

7Yn adran 48(4) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (pŵer i gymhwyso darpariaethau ynghylch lwfansau awdurdodau lleol i banelau presenoldeb), ar ôl “1972 (c. 70)” mewnosoder “or (in relation to Wales) Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.