RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL
Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr
I11Dyletswydd i gynnal arolwg
1
Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau o dan yr adran hon, gynnal arolwg—
a
o gynghorwyr yn ei ardal, a
b
o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.
2
Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin—
a
ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a
b
ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.
3
Rhaid i'r arolwg gael ei gynnal—
a
drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig, a
b
drwy grynhoi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.
4
Mae'r cwestiynau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—
a
rhywedd;
b
cyfeiriadedd rhywiol;
c
iaith;
d
hil;
e
oedran;
f
anabledd;
g
crefydd neu gred;
h
iechyd;
i
addysg a chymwysterau;
j
cyflogaeth;
k
gwaith fel cynghorydd.
5
Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd i ddarparu unrhyw wybodaeth.
6
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd ddarparu gwybodaeth yn ddienw o dan yr adran hon.
7
Yn yr adran hon—
ystyr “anabledd” (“disability”) yw amhariad corfforol neu feddyliol a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol normal;
ystyr “cred” (“belief”) yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac mae cyfeiriad at gred yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg cred;
ystyr “crefydd” (“religion”) yw unrhyw grefydd ac mae cyfeiriad at grefydd yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg crefydd;
ystyr “cyfeiriadedd rhywiol” (“sexual orientation”) yw cyfeiriadedd rhywiol person—
- a
tuag at bersonau o'r un rhyw,
- b
tuag at bersonau o'r rhyw arall, neu
- c
tuag at bersonau o'r naill ryw neu'r llall;
- a
mae “cynghorydd” (“councillor”) yn cynnwys cynghorydd cymuned;
ystyr “hil” (“race”) yw lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.