Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

1Dyletswydd i gynnal arolwgLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau o dan yr adran hon, gynnal arolwg—

(a)o gynghorwyr yn ei ardal, a

(b)o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin—

(a)ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a

(b)ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)Rhaid i'r arolwg gael ei gynnal—

(a)drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig, a

(b)drwy grynhoi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.

(4)Mae'r cwestiynau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—

(a)rhywedd;

(b)cyfeiriadedd rhywiol;

(c)iaith;

(d)hil;

(e)oedran;

(f)anabledd;

(g)crefydd neu gred;

(h)iechyd;

(i)addysg a chymwysterau;

(j)cyflogaeth;

(k)gwaith fel cynghorydd.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd i ddarparu unrhyw wybodaeth.

(6)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd ddarparu gwybodaeth yn ddienw o dan yr adran hon.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “anabledd” (“disability”) yw amhariad corfforol neu feddyliol a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol normal;

  • ystyr “cred” (“belief”) yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac mae cyfeiriad at gred yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg cred;

  • ystyr “crefydd” (“religion”) yw unrhyw grefydd ac mae cyfeiriad at grefydd yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg crefydd;

  • ystyr “cyfeiriadedd rhywiol” (“sexual orientation”) yw cyfeiriadedd rhywiol person—

    (a)

    tuag at bersonau o'r un rhyw,

    (b)

    tuag at bersonau o'r rhyw arall, neu

    (c)

    tuag at bersonau o'r naill ryw neu'r llall;

  • mae “cynghorydd” (“councillor”) yn cynnwys cynghorydd cymuned;

  • ystyr “hil” (“race”) yw lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)