RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL

Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr

I11Dyletswydd i gynnal arolwg

1

Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau o dan yr adran hon, gynnal arolwg—

a

o gynghorwyr yn ei ardal, a

b

o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.

2

Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg F2, neu drefnu i gynnal arolwg, mewn perthynas â phob etholiad cyffredin—

a

ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a

b

ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.

3

Rhaid i'r arolwg gael ei gynnal—

a

drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig, a

b

drwy grynhoi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.

F13A

Yn achos etholiad cyffredin caniateir i arolwg gael ei gynnal—

a

yn llwyr ar ôl yr etholiad cyffredin, neu

b

drwy ofyn i’r ymgeiswyr i gael eu hethol i swydd cynghorydd ateb y cwestiynau rhagnodedig cyn yr etholiad cyffredin a chrynhoi’r wybodaeth a ddarparwyd wedi hynny.

4

Mae'r cwestiynau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—

a

rhywedd;

b

cyfeiriadedd rhywiol;

c

iaith;

d

hil;

e

oedran;

f

anabledd;

g

crefydd neu gred;

h

iechyd;

i

addysg a chymwysterau;

j

cyflogaeth;

k

gwaith fel cynghorydd.

5

Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar F3unrhyw unigolyn i ddarparu unrhyw wybodaeth.

F46

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

7

Yn yr adran hon—

  • ystyr “anabledd” (“disability”) yw amhariad corfforol neu feddyliol a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol normal;

  • ystyr “cred” (“belief”) yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac mae cyfeiriad at gred yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg cred;

  • ystyr “crefydd” (“religion”) yw unrhyw grefydd ac mae cyfeiriad at grefydd yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg crefydd;

  • ystyr “cyfeiriadedd rhywiol” (“sexual orientation”) yw cyfeiriadedd rhywiol person—

    1. a

      tuag at bersonau o'r un rhyw,

    2. b

      tuag at bersonau o'r rhyw arall, neu

    3. c

      tuag at bersonau o'r naill ryw neu'r llall;

  • mae “cynghorydd” (“councillor”) yn cynnwys cynghorydd cymuned;

  • ystyr “hil” (“race”) yw lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.