(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdod lleol—
(a)ymgorffori darpariaeth ragnodedig sy'n ymwneud â rheoli staff a ddarperir o dan adran 8(1)(b) yn ei reolau sefydlog;
(b)gwneud addasiadau eraill i'r rhai o blith ei reolau sefydlog sy'n ymwneud â rheoli staff.
(2)Yn yr adran hon nid yw “rheoli staff” yn cynnwys penodi staff neu ddiswyddo staff neu gymryd camau disgyblu eraill yn erbyn staff.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 10 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(b)