RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED
PENNOD 2TREFNIADAETH CYMUNEDAU A'U CYNGHORAU
I1115Darpariaeth drosiannol
Nid yw adrannau 88(1)(d) ac (e), 100 i 112, ac adran 114 (“darpariaethau Pennod 2”) yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—
a
cais a wneir o dan adran 28, 29 neu 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 cyn y dyddiad y daw darpariaethau Pennod 2 i rym; a
b
cais a wneir ar ôl y dyddiad hwnnw ond y cynhaliwyd pleidlais fel y cyfeirir ati yn adran 29B(4) cyn y dyddiad y daw darpariaethau Pennod 2 i rym.