RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 3CYFETHOL AELODAU O GYNGHORAU CYMUNED

117Canllawiau ynghylch rhoi hysbysiad cyhoeddus am gyfethol

(1)

Wrth iddynt arfer swyddogaethau o dan is-adrannau (2) i (5) o adran 116, rhaid i aelodau cyngor cymuned a chyngor cymuned roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Mae'r cyfeiriad at swyddogaethau yn is-adran (1) yn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau o dan adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas รข hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 116(2).