(1)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, ar gais yr awdurdod, adolygu unrhyw fater sy’n berthnasol i—
(a)y cymorth a’r cyngor sydd ar gael i aelodau’r awdurdod hwnnw, a
(b)telerau ac amodau swydd yr aelodau hynny.
(2)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd lunio adroddiadau ac argymhellion i’r awdurdod yn dilyn adolygiad.
(3)Mater i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yw penderfynu sut i arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 11A wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 60(1), 75(2)(d)