xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 2LL+CGWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

12AelodaethLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod pob aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o'r awdurdod;

(b)nad oes mwy nag un o aelodau ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod;

(c)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nad yw'r arweinydd gweithrediaeth yn aelod o'i bwyllgor gwasanaethau democrataidd.

(3)Ni fydd penodi person yn aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd yn cael unrhyw effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn union ar ôl ei benodi (p'un ai yn rhinwedd y penodiad ai peidio).

(4)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, mae'r newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a fyddai aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

(5)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)