RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 4PENODI CYNRYCHIOLWYR IEUENCTID CYMUNEDOL

I1120Canllawiau ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol

1

Wrth iddynt arfer swyddogaethau o dan adrannau 118 a 119, rhaid i gyngor cymuned roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

2

Mae'r cyfeiriad at swyddogaethau yn is-adran (1) yn cynnwys cyfeiriad at swyddogaethau o dan adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y mae'n gymwys mewn perthynas รข hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 119(2) o'r Mesur hwn.