RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED
PENNOD 8CYTUNDEBAU SIARTER ENGHREIFFTIOL RHWNG AWDURDODAU LLEOL A CHYNGHORAU CYMUNED
I1130Y pŵer i osod cytundeb siarter enghreifftiol
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth yn gosod cytundeb siarter enghreifftiol rhwng awdurdod lleol a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ei ardal.
2
Yn is-adran (1), ystyr “cytundeb siarter enghreifftiol rhwng awdurdod lleol a chyngor cymuned” yw disgrifiad o'r ffordd y gellir arfer eu swyddogaethau at ddibenion cynnal a gwella cydweithrediad rhyngddynt.
3
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond heb fod yn gyfyngedig iddi)—
a
sy'n nodi'r ffordd y mae swyddogaethau penodedig, neu agweddau ar swyddogaethau o'r fath, i'w harfer;
b
sy'n nodi swyddogaethau penodedig, neu agweddau ar swyddogaethau o'r fath, y mae'r awdurdod lleol a'r cyngor cymuned i geisio cytundeb mewn cysylltiad â hwy o ran sut y maent i'w harfer;
c
sy'n nodi swyddogaethau penodedig sydd i'w harfer drwy gyfeirio at egwyddorion penodedig.
4
Yn yr adran hon ac yn adran 131, mae cyfeiriad at arfer swyddogaethau yn cynnwys cyfeiriad at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer swyddogaethau, neu sy'n gydnaws neu'n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau.