Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

130Y pŵer i osod cytundeb siarter enghreifftiolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth yn gosod cytundeb siarter enghreifftiol rhwng awdurdod lleol a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ei ardal.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “cytundeb siarter enghreifftiol rhwng awdurdod lleol a chyngor cymuned” yw disgrifiad o'r ffordd y gellir arfer eu swyddogaethau at ddibenion cynnal a gwella cydweithrediad rhyngddynt.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond heb fod yn gyfyngedig iddi)—

(a)sy'n nodi'r ffordd y mae swyddogaethau penodedig, neu agweddau ar swyddogaethau o'r fath, i'w harfer;

(b)sy'n nodi swyddogaethau penodedig, neu agweddau ar swyddogaethau o'r fath, y mae'r awdurdod lleol a'r cyngor cymuned i geisio cytundeb mewn cysylltiad â hwy o ran sut y maent i'w harfer;

(c)sy'n nodi swyddogaethau penodedig sydd i'w harfer drwy gyfeirio at egwyddorion penodedig.

(4)Yn yr adran hon ac yn adran 131, mae cyfeiriad at arfer swyddogaethau yn cynnwys cyfeiriad at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer swyddogaethau, neu sy'n gydnaws neu'n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 130 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)