RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 8CYTUNDEBAU SIARTER ENGHREIFFTIOL RHWNG AWDURDODAU LLEOL A CHYNGHORAU CYMUNED

131Cyfarwyddiadau sy'n gwneud mabwysiadu cytundeb siarter enghreifftiol yn ofynnol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ardal yr awdurdod fabwysiadu cytundeb siarter enghreifftiol a osodir mewn gorchymyn o dan adran 130(1).

(2)

Yn is-adran (1), ystyr “mabwysiadu” yw penderfynu, yn unol ag unrhyw weithdrefn a bennir yn y cyfarwyddyd, arfer swyddogaethau, neu geisio cytundeb ynghylch sut i arfer swyddogaethau, yn unol â'r canlynol—

(a)

holl ddarpariaethau'r cytundeb siarter enghreifftiol, neu

(b)

y darpariaethau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)

Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)

ymwneud â'r holl gynghorau cymuned ar gyfer cymunedau yn ardal yr awdurdod lleol, neu ag unrhyw un neu ragor ohonynt, a

(b)

os yw'r cyfarwyddyd yn ymwneud â mwy nag un cyngor cymuned, wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chynghorau gwahanol.

(4)

Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.