RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 9CYNLLUNIAU AR GYFER ACHREDU ANSAWDD MEWN LLYWODRAETH GYMUNEDOL

I1135Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: meini prawf

1

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau osod meini prawf sydd i'w bodloni pan wneir cais am achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

2

Mae'r meini prawf y caniateir eu gosod yn cynnwys meini prawf ynghylch y materion a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

a

canran aelodau'r cyngor sy'n ddeiliaid swydd yn rhinwedd cael eu hethol fel a nodir yn adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ethol cynghorwyr cymunedol);

b

cymwysterau swyddogion y cyngor a hyfforddiant ar eu cyfer;

c

hyfforddiant i aelodau'r cyngor a chynrychiolwyr ieuenctid cymunedol;

d

pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd y cyngor a'r cyhoeddusrwydd a roddir i gyfarfodydd (cyn ac ar ôl iddynt gael eu cynnal);

e

rhoi rhan i bersonau yng ngwaith y cyngor cymuned;

f

annog personau i wella llesiant y gymuned neu'r cymunedau y sefydlwyd y cyngor ar ei chyfer neu ar eu cyfer;

g

adroddiadau blynyddol;

h

cyfrifon.