RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 9CYNLLUNIAU AR GYFER ACHREDU ANSAWDD MEWN LLYWODRAETH GYMUNEDOL

I1138Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: tynnu achrediad yn ôl

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer—

a

adolygu achrediadau ansawdd mewn llywodraeth gymunedol, a

b

y sail dros dynnu achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol yn ôl a'r broses o dynnu achrediad yn ôl.