RHAN 1LL+CATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 2LL+CGWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

14Trafodion etcLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi'r person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd (a rhaid iddo beidio â bod yn aelop o grŵp gweithrediaeth).

(2)Os nad oes unrhyw grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o [F1neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth] .

(3)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i benodi'r person sydd i gadeirio unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

(4)Caiff pob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i benderfynu arno.

[F2(4A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (4).]

(5)Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(6)Mae'n ddyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu unrhyw swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (5)(a).

(7)Nid yw person yn cael ei orfodi gan is-adran (6) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos llys o'r fath.

(8)Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, i'w drin fel pwyllgor, neu is-bwyllgor, i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

(9)At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae i'r ymadroddion “grŵp gweithrediaeth” a “grŵp gwrthblaid” yr un ystyr ag yn adran 75.