RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

14Trafodion etc

(1)

Mae awdurdod lleol i benodi'r person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd (a rhaid iddo beidio â bod yn aelop o grŵp gweithrediaeth).

(2)

Os nad oes unrhyw grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i gadeirio'r pwyllgor gwasanaethau democrataidd fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond rhaid iddo beidio â bod yn aelod o F1neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth .

(3)

Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd i benodi'r person sydd i gadeirio unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

(4)

Caiff pob aelod o bwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i benderfynu arno.

F2(4A)

Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (4).

(5)

Caiff pwyllgor gwasanaethau democrataidd i awdurdod lleol, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)

gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(6)

Mae'n ddyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu unrhyw swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (5)(a).

(7)

Nid yw person yn cael ei orfodi gan is-adran (6) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos llys o'r fath.

(8)

Mae pwyllgor gwasanaethau democrataidd, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, i'w drin fel pwyllgor, neu is-bwyllgor, i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

(9)

At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae i'r ymadroddion “grŵp gweithrediaeth” a “grŵp gwrthblaid” yr un ystyr ag yn adran 75.