C1RHAN 8F3...TALIADAU A PHENSIYNAU

Annotations:
Amendments (Textual)
Modifications etc. (not altering text)
C1

Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

Prif swyddogaethau'r Panel

I1I2I3142Swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau

1

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, caiff y Panel benderfynu ar y materion perthnasol—

a

y bydd yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt;

b

yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliad i aelodau o'r awdurdod amdanynt.

2

Dyma yw materion perthnasol—

a

materion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau o awdurdodau perthnasol;

b

cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2.

3

Wedi iddo arfer y pŵer hwnnw, rhaid i'r Panel osod un o'r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—

a

y swm y mae'n rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod;

b

yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o'r awdurdod.

4

Ar ôl penderfynu'r materion perthnasol y ceir awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau amdanynt o dan is-adran (1) a phennu'r swm neu'r uchafswm ar gyfer pob mater o dan is-adran (3), caiff y Panel benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion penodol i fwy na chyfran benodedig F2neu nifer penodedig o'r aelodau o awdurdod.

5

Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4) fod yn fwy na hanner cant y cant oni fydd cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi ei sicrhau.

F15A

Ni chaiff y nifer a bennir gan y Panel yn unol ag is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod, fod yn uwch na phum deg y cant oni chafwyd cydsyniad Gweinidogion Cymru.

6

Caiff y Panel osod—

a

y ganran uchaf neu'r gyfradd uchaf arall y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w defnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol yn y flwyddyn ariannol flaenorol;

b

mynegrif y bydd gan awdurdod perthnasol hawl i'w ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag iddynt effaith ar gyfer y materion perthnasol hynny yn y flwyddyn ariannol flaenorol ag y bydd y Panel yn penderfynu.

7

Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (6) er mwyn—

a

gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â'r un mater;

b

gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.

8

Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (6), rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.

9

Caiff y Panel wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (6) mewn perthynas ag awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad.

10

At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw'n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—

a

fel aelod o awdurdod perthnasol, neu

b

fel aelod o gorff y penodir yr aelod yn aelod ohono gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy'n cynnwys yr awdurdod perthnasol.