Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

144Awdurdodau perthnasol, aelodau etc.LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae awdurdod yn “awdurdod perthnasol” os daw o fewn un o'r disgrifiadau a ganlyn—

(a)awdurdod lleol;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol (a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995) ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen gydag is-adran (2).

(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)maer etholedig i'r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),

(b)aelod gweithrediaeth etholedig o'r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno), ac

(c)aelod cyfetholedig o'r awdurdod.

(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod neu sy'n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod ac sy'n cynrychioli'r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu'r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a

(b)a chanddo hawl i bleidleisio ar gwestiynau sydd i'w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 144 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 144 mewn grym ar 31.8.2011 gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(e)