RHAN 8LL+CF1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

Prif swyddogaethau'r PanelLL+C

144Awdurdodau perthnasol, aelodau etc.LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

(2)Mae awdurdod yn “awdurdod perthnasol” os daw o fewn un o'r disgrifiadau a ganlyn—

(a)awdurdod lleol;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol (a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995) ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.

F2(da). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F3(db)cyd-bwyllgor corfforedig;]

[F4(e)corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.]

(3)Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i'w ddarllen gydag is-adran (2).

(4)Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)maer etholedig i'r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),

(b)aelod gweithrediaeth etholedig o'r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno), F5...

(c)aelod cyfetholedig o'r awdurdod.[F6, a

(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig a chanddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw;]

(5)Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol [F7heblaw cyd-bwyllgor corfforedig] , yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod neu sy'n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod ac sy'n cynrychioli'r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu'r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a

(b)a chanddo hawl i bleidleisio ar gwestiynau sydd i'w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw.

[F8(6)Ni chaniateir i gorff gael ei bennu yn awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,

(b)ei fod yn arfer swyddogaethau perthnasol, ac

(c)bod ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).

(7)“Swyddogaeth berthnasol” yw—

(a)swyddogaeth a roddir gan un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)swyddogaeth y gellid ei rhoi gan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(8)Nid yw adrannau 142(4), 143, 147(3)(b) a 155 yn gymwys mewn perthynas â’r awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran [F9(2)(db) neu (e)] .]