Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

146Yr adroddiad blynyddol cyntafLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad blynyddol arni o dan adran 145.

(2)Rhaid cyhoeddi'r adroddiad ar y flwyddyn ariannol honno (“yr adroddiad blynyddol cyntaf”) heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011.

(3)Rhaid i'r adroddiad blynyddol cyntaf nodi—

(a)y materion perthnasol,

(b)y symiau a osodwyd o dan adran 142(3),

(c)y gyfran a benderfynwyd o dan adran 142(4),

(d)yr aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy, a

(e)y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf ond cyn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(5)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion is-adran (3)(a), (b), (c), (d) neu (e).

(6)Wrth lunio adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad ariannol cyntaf ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef, a

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(7)Cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn eu bod yn briodol,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'n eu cael ar y drafft.

(8)Daw darpariaethau'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff yr adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 146 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 146 mewn grym ar 31.8.2011 gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(g)