Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Rhn. 8 pennawd wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 63(2), 75(3); O.S. 2014/380, ergl. 2
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)
(1)Rhaid i'r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol F2... cyn pen y cyfnod o wyth wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'n anfon drafft o'r adroddiad yn unol ag adran 146 neu 147.
[F3(1A)Rhaid i’r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad atodol—
(a)cyn diwedd y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147, neu
(b)yn hwyrach na diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 147.]
(2)Rhaid i'r Panel, pan fydd yn anfon drafft o adroddiad yn unol â'r naill neu'r llall o'r adrannau hynny, osod copi electronig o'r drafft ar ei wefan.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 148(1) wedi eu diddymu (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 66(a), 75(2)(d)
F3A. 148(1A) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 66(b), 75(2)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 148 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 148 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(h)
I3A. 148 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(c)