C1RHAN 8F1...TALIADAU A PHENSIYNAU
Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)
Adroddiadau gan y Panel
I1I2I3152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau
1
Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—
a
unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a
b
unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.
2
Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.
3
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.
4
Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.
Gair yn Rhn. 8 pennawd wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 63(2), 75(3); O.S. 2014/380, ergl. 2