xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Rhn. 8 pennawd wedi ei hepgor (1.4.2014) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 63(2), 75(3); O.S. 2014/380, ergl. 2
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)
(1)Ni chaniateir i awdurdod perthnasol wneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson sydd wedi ei atal neu wedi ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achosion eraill y maent o'r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio â gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Panel.
(4)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (2) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.
(5)Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu taliadau a wnaed mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pryd nad oedd gan y person hwnnw hawl i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw un o'r rhesymau canynol—
(a)gwnaed y taliadau yn groes i'r gwaharddiad yn is-adran (1);
(b)gwnaed y taliadau yn groes i'r gyfarwyddyd o dan is-adran (2);
(c)yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 155 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 155(1) mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(n)
I3A. 155(2)(3)(4) mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(n)
I4A. 155(2)(3)(4) mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(i)
I5A. 155(5) mewn grym ar 28.2.2014 gan O.S. 2014/453, ergl. 2(b)