RHAN 8AELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU

Taliadau gan awdurdodau perthnasol

155Peidio â gwneud taliadau

(1)Ni chaniateir i awdurdod perthnasol wneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson sydd wedi ei atal neu wedi ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achosion eraill y maent o'r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio â gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Panel.

(4)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (2) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.

(5)Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu taliadau a wnaed mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pryd nad oedd gan y person hwnnw hawl i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw un o'r rhesymau canynol—

(a)gwnaed y taliadau yn groes i'r gwaharddiad yn is-adran (1);

(b)gwnaed y taliadau yn groes i'r gyfarwyddyd o dan is-adran (2);

(c)yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod.