170Cywiro gorchmynionLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Pan fo—
(a)gwall mewn gorchymyn cyfuno, a
(b)ni ellir ei gywiro drwy orchymyn dilynol a wneir o dan adran 162, caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, gywiro'r gwall.
(2)At ddibenion yr adran hon, mae “gwall” mewn gorchymyn yn cynnwys darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gorchymyn neu wedi ei hepgor ohono drwy ddibynnu ar wybodaeth anghywir neu anghyflawn a ddarparwyd gan gyngor cymuned neu unrhyw gorff cyhoeddus arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 170 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)