Yn y Pennod hon—
mae “aelod o awdurdod lleol” (“member of a local authority”) yn cynnwys maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) neu aelod gweithredol etholedig (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno) o'r awdurdod;
ystyr “ardal etholiadol” (“electoral area”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i awdurdod lleol;
ystyr “ardal llywodraeth leol” (“local government area”) yw ardal y mae awdurdod lleol wedi ei sefydlu ar ei chyfer;
ystyr “ardal llywodraeth leol bresennol” (“existing local government area”) yw ardal llywodraeth leol a ddiddymir gan orchymyn cyfuno;
ystyr “ardal llywodraeth leol newydd” (“new local government area”) yw ardal llywodraeth leol a gyfansoddwyd drwy orchymyn cyfuno;
ystyr “awdurdod cysgodol” (“shadow authority”) yw awdurdod sydd wedi ei benodi neu wedi ei ethol i gyflawni swyddogaethau a ragnodwyd drwy orchymyn cyfuno ac a ddaw'n awdurdod lleol newydd ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;
ystyr “awdurdod lleol newydd” (“new local authority”) yw awdurdod lleol a sefydlwyd drwy orchymyn cyfuno;
ystyr “awdurdod lleol presennol” (“existing local authority”) yw'r awdurdod lleol ar gyfer ardal llywodraeth leol bresennol;
ystyr “Comisiwn Cymru” (“Welsh Commission”) yw Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru a sefydlwyd gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
mae “corff cyhoeddus” (“public body”) yn cynnwys—
awdurdod lleol;
cyd-fwrdd, neu gyd-bwyllgor, y mae awdurdod lleol wedi ei gynrychioli arno;
ystyr “cyfnod cysgodol” (“shadow period”) yw cyfnod cyn y bydd aelodau o'r awdurdod lleol newydd yn cychwyn ar eu swydd;
ystyr “gorchymyn cyfuno” (“amalgamation order”) yw gorchymyn o dan adran 162;
mae “staff” (“staff”) yn cynnwys swyddogion a chyflogeion.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 171 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)